Mae’r llwybr yn pasio drwy fannau gweddol anghysbell felly mae angen cynllunio’n ofalus os ydych am aros yn rhywle am ddiwrnod. Nid oes cyfleusterau cludiant cyhoeddus ar gael yn rhai o’r mannau y byddwch yn ymweld â nhw, neu, os oes cyfleusterau o’r fath, maen nhw’n gyfyngedig. Ond, dyma rai awgrymiadau.
Dyffryn Maesglas a Threffynnon
Rydych yn debygol o gyrraedd Treffynnon y diwrnod cyn i chi gychwyn. Mae rhan gyntaf y daith gerdded yn mynd drwy Barc Treftadaeth Dyffryn Maesglas. Mae werth archwilio hwn. Roedd y dyffryn yn brysur gyda diwydiant o ganol y 18fed ganrif hyd ddegawdau diwethaf yr 20fed ganrif. Mae amgueddfa a chanolfan wybodaeth gerllaw Abaty Dinas Basing. Mae tref Treffynnon yn dref farchnad hynafol hefyd gyda Stryd Fawr “gaeëdig”.
Llanelwy
Cafodd Llanelwy statws dinas yn 2012. Mae’r Eglwys Gadeiriol wedi’i chysegru i Sant Asaph a fu’n byw ac yn gweinidogaethu yma yn y 6ed Ganrif. Mae cyfran fwyaf yr adeilad presennol yn hannu o’r 15fed ganrif. Cafodd ei ail-fodelu gan Gilbert Scott yn y cyfnod rhwng 1867 a 1875. Yn ystod y 16eg Ganrif, bu’r Esgob Morgan yn cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg.
Mae gan y ddinas hefyd gysylltiad gydag Aberdaron – ym mynwent y plwyf, Sant Cyndeyrn, mae bedd Richard Robert Jones (1780-1843). Er na chafodd addysg ffurfiol, maen nhw’n dweud bod “Dic Aberdaron” wedi dysgu 14 neu 15 o ieithoedd iddo’i hun, yn cynnwys Lladin pan oedd yn 11 oed. Mae Llanelwy hefyd yn gysylltiedig â H M Stanley. Ei enw genedigol ef oedd John Rowlands a chafodd ei eni yn nhref Dinbych gerllaw. Cafodd ei fagu yn Wyrcws Llanelwy wedi i’w fam ei adael yn 5 oed. Yn 1859 allfudodd i’r Unol Daleithiau. Mae Colofn Gerfluniau yn darlunio ei fywyd gerllaw’r Bont.
Gwytherin
Daeth y Santes Gwenffrewi (Winefride yn Saesneg) i fyw yma ar ôl y digwyddiad adnabyddus yn Nhreffynnon. Daeth yn lleian mewn abaty yng Ngwytherin ac, yn ddiweddarach, daeth yn abades oddeutu’r flwyddyn 650 AD.
Mae twmpath wedi’i orchuddio â glaswellt yn rhan ddeheuol y fynwent a’r enw ar hwn yw Capel Gwenffrewi neu Gapel Penbryn a dyma lle claddwyd y Santes – a llawer o seintiau eraill. Roedd yn fan mor bwysig i bererinion nes y symudodd y Prior Robert a’i fynachod esgyrn y Santes Gwenffrewi oddi yno 500 mlynedd yn ddiweddarach a’u cymryd i’r Amwythig, i ddenu’r pererinion yno yn lle Gwytherin. Mae’r stori hon yn sail i un o nofelau’r Brawd Cadfael gan Ellis Peters ac mae llawer o wybodaeth ysgolheigaidd ar Wenffrewi yn Llyfrgell Bodleian yn Rhydychen.
Mae darn bach o flwch creirfa o’r enw Arch Gwenffrewi yn yr amgueddfa yn Nhreffynnon erbyn hyn ond roedd wedi ei gadw yng Ngwytherin am bron i fil o flynyddoedd.
Mae’r fynwent yn lle amgaeedig clas cynnar, sy’n dangos faint oedd statws y fam eglwys, ar safle lawer cynharach, efallai o Oes yr Haearn neu’r Oes Efydd. Mae meini hirion yno, a chan un engrafiad Romano-Brydeinig arni ac mae gan y fynwent goed yw hynafol mawreddog iawn sydd hefyd yn arwydd o safle cyn-Gristnogol.
I gael rhagor o gefndir, gwelwch yr wybodaeth am brosiect Gwenffrewi: - cliciwch yma
Eglwysbach a Rowen
Mae’r pentrefi yma i’w cael yn harddwch Dyffryn Conwy. Gallwch fwynhau diwrnod hamddenol yn cerdded y llwybrau yn yr ardal hon. Mae hefyd wasanaeth bysiau gweddol dda sy’n cysylltu Conwy gyda Betws y Coed. Mae Conwy’n dref furiog gyda Chastell a adeiladwyd gan Edward I. Mae Betws y Coed yn ganolfan gerdded adnabyddus. Gerllaw yma hefyd mae Gerddi Bodnant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae modd cyrraedd y rhain drwy gyfuno cerdded a mynd ar fws.
Penmaenmawr, Llanfairfechan ac Abergwyngregyn
Nid yw’r llwybr yma’n ymweld ag unrhyw un o’r trefi neu’r pentrefi hyn. Ond mae’n pasio’n agos atynt ac mae cerddwyr yn debygol o aros yn un o’r mannau yma. Os byddwch yn dewis cael diwrnod rhydd yna gallech fynd am dro ar hyd y llwybr arfordirol, ymweld â gwarchodfa natur neu fynd ar fws i Landudno.
Bangor
Dyma’r ail Ddinas ar y llwybr. Mae’r Eglwys Gadeiriol wedi’i chysegru i Sant Deiniol a sefydlodd eglwys yma yn y 6ed ganrif. Mae hefyd yn Dref Prifysgol. Mae dau eiddo Ymddiriedolaeth Genedlaethol gerllaw – Castell Penrhyn ar ymyl y dref a Phlas Newydd dros Bont Menai ar Ynys Môn. Mae hefyd yn hawdd mynd oddi yma i ymweld â Chastell Caernarfon ar y gwasanaeth bws arferol.
Llanberis
Y gweithgaredd amlwg i’w wneud yma ar ddiwrnod rhydd yw dringo’r Wyddfa. Gallwch wneud hyn ar droed neu mewn trên. Mae’r dref yn gartref i Amgueddfa Lechi Cymru’r Amgueddfa Genedlaethol. Gallwch hefyd ymweld â’r Mynydd Gwefru a gallech fynd ar drip i du mewn y mynydd i weld Cynllun Storio Pwmp Trydan. Mae Betws y Coed a Chapel Currig o fewn y Parc Cenedlaethol a gallwch gyrraedd y rhain yn hawdd hefyd ar gludiant cyhoeddus. Mae gwasanaeth bws rheolaidd hefyd i Gaernarfon lle mae un o gestyll Edward 1.
Waunfawr
Mae’r pentref yma ar y brif ffordd rhwng Caernarfon a Beddgelert. Mae gwasanaeth bws rheolaidd ar y ffordd yma. Mae Rheilffordd Ucheldir Cymru’n cysylltu’r ddau le yma hefyd. Mae’r rheilffordd yn parhau yr holl ffordd i’r Arfordir ym Mhorthmadog.
Penygroes
Mae hwn yn gyn-Bentref Chwarel Lechi arall ond mae gan hwn rywbeth gwahanol - ei winllan ei hun. Mae teithiau cerdded cylchol hyfryd o ganol y pentref sy’n archwilio’r llwybrau a ddefnyddiwyd gan y chwarelwyr. Mae modd teithio o’r fan yma i Gaernarfon, Porthmadog a Chriccieth (gyda’i gastell).
Clynnog Fawr a Trefor
Ar hyn o bryd nid oes llawer o fannau aros yn y ddau bentref yma. Er gwaethaf hynny, mae Trefor yn fan cychwyn gwych ar gyfer mynd i ymweld â Thre’r Castell. Mae hwn yn anheddiad cyn-hanesyddol ar Yr Eifl sy’n sefyll yn fawreddog dros y pentref
Nefyn, Morfa Nefyn a Thudweiliog
Mae’r trefi bychain a’r pentref yma’n fannau da i archwilio Pen Llŷn. O’r fan yma gallwch gyrraedd pentrefi eraill ac eglwysi sy’n rhan o Daith Pererin Llŷn.
Aberdaron (Saesneg yn unig..)
Crossing to Bardsey is weather dependent so if you are unable to go, you might like to relax on it's excellent beach, or as an alternative and you’re feeling fit, you might like to walk round the headland for a view of the island and the swirling currents which made the crossing so hazardous for pilgrims long ago.
The Becws Islyn bakery and cafe has a pilgrimage theme in the splendid murals in its upstairs room, with images of the island and of the last King of Bardsey.
The National Trust museum, Porth y Swnt, invites you to experience a pilgrimage from darkness to light, through all the senses.
Notice too the plaques on the cafe Gegin Fawr, where pilgrims could claim a meal before crossing to Bardsey.
Inside St Hywyn's, Aberdaron church, don't miss the grave stones carved with Latin inscriptions, from the 5th century, showing that there was a religious community here at that time.
Gwneud rhodd drwy Paypal
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni.
Taith y Pererin
Ebost: cliciwch yma
Dr.Rowan Williams,
Y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Williams o Ystumllwynarth. Cyn Archesgob Caergaint.
North Wales Pilgrim's Way Guide (2019)
North Wales Pilgrim's Way between Hollywell and Rowen (2022)
North Wales Pilgrim's Way between Rowen and Aberdaron (2022)
© 2024 TAITH Y PERERIN Gogledd Cymru ~ GWEFAN GAN DELWEDD. CEDWIR BOB HAWL.