Taith Pererin Gogledd Cymru ~ North Wales Pilgrim's Way
Cymraeg | English
Toggle Menu
  • Hafan
  • Y Llwybr & Mapiau
  • Cynllunio Taith Gerdded
    • Cynllunio Taith Gerdded
    • Bwyd a Llety
    • Llety i Grwpiau
    • Cymorth & Chyngor
    • Cefnogaeth
    • Diwrnod Rhydd
    • Llyfrau Arweiniad
  • Lleoedd a Hanes
    • Lleoedd
    • Hanes
  • Newyddion
  • Pasbort
  • Oriel
  • Dolenni a Thaflenni
  • Ysbrydoliaeth
6
‹
›

Pasbort

Stampiau Pasbort y PererinPilgrim Passport Stamps
I chi gael cofio eich pererindod, gallwch gasglu “Pasbort y Pererin” o Ganolfan Ymwelwyr Dyffryn Maesglas ar ddechrau’r daith i Abaty Dinas Basing, neu o nifer o’r eglwysi ar hyd y ffordd.
Gallwch gael stampiau ar eich pasbort i gofnodi eich taith. Chwiliwch am arwydd yn dangos bod stamp pasbort ar gael yn yr adeilad. Mae’r stamp a’r pad inc fel arfer mewn bocs persbecs clir ac maent ar gael i chi eu defnyddio. Cafodd y stampiau eu llunio gan blant o ysgolion cynradd ar hyd llwybr Taith Pererin Gogledd Cymru. Bu’r artist Ruth Thomas yn gweithio gyda’r plant o Sir y Fflint a Sir Ddinbych tra bo’r artist Eleri Jones wedi cwblhau’r prosiect yn siroedd Conwy a Gwynedd. Bu 25 o ysgolion i gyd yn cymryd rhan yn y prosiect, yn dysgu am bererindod ac yn ymweld â rhannau o’r llwybr yn ogystal â datblygu sgiliau artistig a phrofi’r broses argraffu.
Er mai dim ond un llun a ddewiswyd o bob ysgol i greu’r stamp, trefnwyd arddangosfeydd i ddangos gwaith cymaint o blant ag y bo modd yn Oriel Pendeitsh, Caernarfon a Theatr Clwyd Yr Wyddgrug, tra bo eglwysi hefyd yn arddangos eu gwaith.

Pilgrim Passport Stamps Pilgrim Passport Stamps Pilgrim Passport Stamps Pilgrim Passport Stamps

Mae’r stampiau yma i’w cael yn y mannau a ganlyn:

Sir y Fflint:

Dyffryn Maesglas: Y Ganolfan Ymwelwyr.
Treffynnon: Y Ganolfan Ymwelwyr.
Pantasaph: Siop Roddion
Chwitffordd: Eglwys y Santes Fair a Sant Beuno (ddim yn bell o’r llwybr)
Maen Achwyfan: (Saesneg yn unig...) In a bird box attached to the gate post.
Llanasa: Eglwys Sant Cyndeyrn
Trelawnyd: Eglwys Sant Mihangel (mae’r stamp i’w gael ar bostyn hysbysfwrdd yr eglwys, ar ochr chwith y gât)

Sir Ddinbych:

Tremeirchion: Eglwys Corpus Christi
Llanelwy: (Saesneg yn unig...)Both the cathedral and parish church stamps are in a box attached to the gate of the south porch of the parish church. ( Both the cathedral and parish church are open on a few days each week and neither is open on a Monday or Saturday )
Cefn: Eglwys y Santes Fair (am fod yr eglwys dan glo fel arfer, mae’r stamp i’w gael yn y porth: Ar yr ochr chwith, ar ben y wal, o dan y bondo).

Conwy:

Llannefydd: Eglwys Sant Nefydd (mewn bocs adar sydd wedi’i osod ar y gatiau ym mhorth/mynedfa’r eglwys)
Llansannan: Eglwys Sant Sannan
Llangernyw: Eglwys Sant Digain
Eglwysbach: Eglwys Sant Martin
Rowen: Capel Seion,
Llangelynnin: St Celynnin Church. (wedi'i leoli yn y bedyddfaen)

Gwynedd:

Abergwyngregyn: Caffi Hen Felin, Abergwyngregyn LL33 0LP
Bangor:
the stamp is with the Wardens at their welcoming table in the Cathedral. Also at Trespass Outdoor Shop, 264 High St., Bangor LL57 1PB (Saesneg yn unig)
Y Felinheli: Heb ei osod eto
Llanberis: Siop Joe Browns, Y Stryd Fawr LL55 4HA
Penygroes:
Llun Mewn Ffrâm. (Oriel a siop fframio), Snowdon St, (9-5 Llun- Gwener; 9-12 Sadwrn)
Clynnog Fawr: Eglwys Sant Beuno
Trefor: Siop y pentref
Pistyll: Eglwys Sant Beuno
Nefyn: Amgueddfa Forwrol Llyn, Hen Eglwys y Santes Fair, Stryd-y-Llan (Open Wed to Sundays 10:30-4:00 from April to October and are now also Open throughout the Winter on Saturdays 10:30-4:00 with the café and shop and toilet facilities also available) - (cyfieithiad i'w ddod yn fuan)
Premier Stores, Y Groes, Nefyn LL53 6HH.
Tudweiliog: Post Tudweiliog, Tudweiliog. LL53 8NB
(7:30 -5 heblaw ar Ddydd Mercher a Dydd Sul pan mae’n cau am 12:00)
Aberdaron: Eglwys Sant Hywyn
Ynys Enlli: Siop a chapel

 

Rhoi

Gwneud rhodd drwy Paypal

Manylion Cyswllt

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni.

Taith y Pererin
Ebost: cliciwch yma

Ein Noddwr

Dr.Rowan Williams,
Y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Williams o Ystumllwynarth. Cyn Archesgob Caergaint.


North Wales Pilgrim's Way Guide (2019)

guide book cover

North Wales Pilgrim's Way between Hollywell and Rowen (2022)

guide book cover


North Wales Pilgrim's Way between Rowen and Aberdaron (2022)

guide book cover



Cotswold

Bookmark and Share


© 2023 TAITH Y PERERIN Gogledd Cymru ~ GWEFAN GAN DELWEDD. CEDWIR BOB HAWL.