Yn Ail Hanner yr Ugeinfed Ganrif dechreuodd fwy o bobl ymddiddori mewn pererindodau. Yng Ngogledd Cymru, ers y 7fed Ganrif, mae Pererinion wedi ymweld â phedwar safle – Ynys Enlli, Clynnog Fawr, Gwytherin a Threffynnon. Mae gan y tri olaf gysylltiadau gyda dau Sant o Gymru, Beuno a Gwenffrewi. Yn 2011 cafodd grŵp bychan o bobl y syniad o greu Llwybr Pererin i Ogledd Cymru.
Ers y Cyfnod Canoloesol mae Ynys Enlli hefyd wedi bod yn lle o Bererindod. Mae’n adnabyddus fel Ynys yr 20,000 o Seintiau. Yn draddodiadol, roedd y Pererinion yn cwrdd ar Glynnog Fawr cyn cychwyn am Ynys Enlli.
Mae Llwybr Pererin Gogledd Cymru’n cysylltu llawer o’r mannau sy’n gysylltiedig â’r ddau Sant yma gyda Chlynnog Fawr. Yna mae’n symud ymlaen i Enlli.
Yn ystod y 7fed Ganrif, bu Sant Beuno’n gweinidogaethu ledled Gogledd Cymru. Yn y cyfnod hwnnw roedd pobl yn ystyried bod gan Ffynhonnau nodweddion sy’n iacháu. Roedd Sant Beuno’n gysylltiedig â nifer o’r Ffynhonnau yng Ngogledd Cymru, rhai yr oedd wedi eu creu ac eraill oedd wedi eu henwi ar ei ôl.
Yn ôl yr hanesion, cafodd Santes Gwenffrewi ei dienyddio pan wrthododd ymateb i ddymuniadau’r Tywysog Caradog o Gymru. Digwyddodd hyn wrth Ffynnon Sant Beuno yn Nhreffynnon. Rholiodd pen y Santes Gwenffrewi i lawr y bryn ac yn y fan lle arhosodd, tasgodd ffynnon o’r ddaear. Dyma Ffynnon Gwenffrewi erbyn hyn. Cafodd ei bywyd ei hadfer iddi gan ei hewythr Sant Beuno.
Yna symudodd Santes Gwenffrewi i Wytherin lle’r oedd ei modryb yn Abades yn yr Abaty. Arhosodd yno hyd ei marwolaeth yn 660 OC. Erbyn hynny roedd Sant Beuno wedi sefydlu ei Eglwys yng Nghlynnog Fawr. Mae hon hefyd gerllaw Ffynnon.
Yn dilyn marwolaeth Gwenffrewi, daeth Treffynnon a Gwytherin yn fannau o Bererindod. Roedd un o’r Pererinion yma’n fynach o’r Amwythig a gafodd ei iacháu o salwch ger y ffynnon. Canlyniad hynny oedd cymryd gweddillion Gwenffrewi i Abaty’r Amwythig. Ar y ffordd arhosodd y teithwyr yn Woolston yn Swydd Amwythig. Yma eto tasgodd ffynnon o’r ddaear ar y fan lle’r oeddent. Dywedir bod gan hon hefyd nodweddion iacháu.
Ar ôl cyfarfod yng Nghlynnog Fawr byddai’r Pererinion yn teithio ymlaen i Ynys Enlli. Ystyriwyd tair pererindod i Enlli yn gyfatebol ag un i Rufain. Bu farw llawer ohonynt yn y dyfroedd rhwng y tir mawr a’r ynys.
Gwneud rhodd drwy Paypal
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni.
Taith y Pererin
Ebost: cliciwch yma
Dr.Rowan Williams,
Y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Williams o Ystumllwynarth. Cyn Archesgob Caergaint.
North Wales Pilgrim's Way Guide (2019)
North Wales Pilgrim's Way between Hollywell and Rowen (2022)
North Wales Pilgrim's Way between Rowen and Aberdaron (2022)
© 2024 TAITH Y PERERIN Gogledd Cymru ~ GWEFAN GAN DELWEDD. CEDWIR BOB HAWL.