I brintio Disgrifiad o’r llwybr llawn – cliciwch yma
I weld Map OS rhyngweithiol – cliciwch yma
I weld y llwybr ar Google Earth – cliciwch yma
Map Archwilio OS 265
Gadewch yr Abaty drwy gerdded tuag at yr Hen Ysgol ac yna i’r chwith i fyny Dyffryn Maesglas. Efallai y byddwch eisiau codi copi o’r daflen dywys am y Dyffryn yn y Swyddfa Wybodaeth. Mae hon yn dweud wrthych am y gwahanol safleoedd y byddwch yn eu pasio ar eich ffordd. Pan gyrhaeddwch y fan lle’r oedd Arhosfa Santes Gwenffrewi gynt, cymerwch y llwybr troed (y fforch dde) allan o’r dyffryn i’r brif ffordd ac i Ffynnon Gwenffrewi.
Ar ôl ymweld â’r Ffynnon cymerwch y llwybr gyferbyn, heibio i’r maes parcio bychan. Y bryn ar eich ochr chwith yw’r bryn lle gwnaeth Sant Beuno ei wyrth. Mae ffynnon wedi’i chysegru iddo yma. Parhewch i fyny’r llwybr nes bydd yn troi i’r dde i’r fferm. Ar y pwynt yma, ewch i’r chwith i fyny’r allt tuag at gornel dde’r olaf o’r tai newydd. Cerddwch heibio i’r tŷ yma at y ffordd.
Croeswch y ffordd yn ofalus i fynd i fyny Teras Brynffynnon gan basio’r tai ar eich ochr chwith i lwybr gwyrdd. Cymerwch y llwybr yma i fyny’r allt, dros gamfa, i fynd at giât. Croeswch y trac ac ewch dros gamfa. Parhewch i fyny’r allt gyda’r gwrych ar eich ochr chwith. Anwybyddwch y ddwy gamfa sy’n mynd i ffwrdd i’r chwith ac ewch i’r gamfa o’ch blaen. Croeswch drosti a mynd i’r dde i gerdded ar ochr dde’r llinell drydan at gamfa arall. Croeswch dros honno a mynd yn lletraws i’r chwith i fyny’r allt gan ddilyn y llinell drydan at gamfa yng nghornel uchaf y cae.
Croeswch dros hon a cherdded gyda’r ffens ar eich ochr dde i gamfa giât. Ewch drwy neu dros hon a cherdded yn syth ymlaen. Mae’r llwybr yn mynd dros dop y bryn, man gwych i weld golygfa hyfryd. Ewch ar letraws i lawr ar ochr chwith y bwthyn. Croeswch dros y gamfa i’r trac a throi i’r dde i fyny’r allt. Ewch drwy’r giât a mynd tua’r chwith i fynd uwch ben yr hen chwarel. Anelwch yn syth am y gamfa a’r giât o’ch blaen.
Ewch drwy’r giât neu dros y gamfa ac yna’n uniongyrchol ymlaen. Ar y wal o amgylch y goedwig, trowch i’r chwith i lawr yr allt at giât mochyn. Ewch drwyddi ac yna dros gamfa garreg i Fynwent Mynachlog Pantasaph.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
(Saesneg yn unig)
Leaving the Monastery by walking along the path past the entrance to the Stages of the Cross and turn left. At the road junction turn right to the next road junction. Cross over the road to the footpath at a stile and gate. Take this path with the hedge on your right to the community of Lloc. Cross over the road to the cross roads at the Rock Inn and turn right to walk along the pavement. Take the second footpath on your left (next to a well hidden house) to go through the gate into the wood. Immediately turn right and follow the delightful woodland path. At the junction take the right fork to the end of the wood. Turn left and follow the footpath which eventually becomes a track and a bridleway.
Follow the bridleway to cross a road on to another bridleway. Immediately go left over a stile and head for the gate to the left of the farmhouse (Garreg Farm). Go through and walk along the bridleway to the right of the farm buildings and up to a track turn left along this and shortly turn right to go up hill into the woods (Coed y Garreg). As you enter the woods turn left along the woodland path. Follow this to the stile at the end of the path. On your right is the summit of the hill with its reputed Roman Pharos. (This is a magnificent viewpoint)
Cross over the stile and go diagonally right to another stile and then to a stone stile alongside the cottage. Turn left to the staggered junction with Maen Achwyfan in the field.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma (Saesneg yn unig)
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
Ar ôl ymweld â’r garreg ddirgel hon, ewch yn ôl at y ffordd a throi i’r dde. Pasiwch yr adeilad bychan ar eich ochr chwith at lwybr ceffyl ar yr ochr chwith sy’n pasio’r bwthyn (Fferm Pen Rallt). Dilynwch hwn nes bydd yn troi’n llwybr, gan basio coedwig breifat a hen siafftiau cloddio ar y dde. Wrth y gyffordd parhewch ymlaen drwy ddwy giât ac yna ar draws dau gae gyda chamfeydd. Ar ôl yr ail gamfa sy’n arwain i mewn i ymylon y goedwig trowch i’r chwith, gan barhau am 300 metr at y giât. Ewch drwy’r giât a chymryd y llwybr gyda’r cyfeirbwyntiau i’r chwith. Dilynwch hwn (gwelwch yr olygfa o oleudy’r Parlwr Du) dros ddwy gamfa arall i fynd i mewn i’r gefeill- bentrefi Berthengam a Threlogan. Trowch i’r dde ar y ffordd (gan basio blwch post) i’r Groesffordd a thafarn yr Afon Goch.
Parhewch i lawr y ffordd o’ch blaen am oddeutu 0.5 milltir/0.8km yna cerddech ar hyd y dreif, ar y chwith, tuag at y Ganolfan Achub Anifeiliaid Anwes ym Maes Gwyn. Cyn i chi gyrraedd yr adeiladau, ewch i’r dde dros gamfa. Dilynwch y llwybr* gyda’r gwrych ar eich ochr chwith drwy giât (gyda chamfa ar ei hochr) a mynd ar draws y cae i gerdded gyda’r gwrych sydd yn awr ar eich ochr dde. Ewch dros y gamfa ac yn syth ymlaen dros ddwy gamfa arall i fynd i mewn i ddol gyda choed parcdir a Phentref Llanasa o’ch blaen. Cerddwch i Eglwys y Seintiau Asaph a Chyndeyrn.
*Gall y llwybr troed yma fod yn eithriadol o fwdlyd. I osgoi hwn, ewch dros y gamfa ar y chwith, gan basio’r Ganolfan Achub Anifeiliaid ar eich ochr dde. Croeswch dros y gamfa a cherdded gyda’r gwrych ar eich ochr chwith i’r gamfa arall. Ewch dros hon a’r un nesaf i gerdded i fyny at y ffordd. Trowch i’r dde ar ei hyd a’i dilyn i bentref Llanasa.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
Gadewch y pentref drwy gerdded ymlaen, gan basio o dan dafarn y Red Lion ar y dde a llyn y pentref ar y chwith. Wrth y tŷ pen, trowch i’r chwith i fynd dros y gamfa garreg (neu drwy’r giât wrth ei hochr). Dilynwch lwybr gyda ffens o amgylch a rhwng yr adeiladau ac yna dros y gamfa. Ewch yn eich blaen i fyny’r cae a thros y gamfa gerllaw giât ac yna dros gamfa arall wrth ochr giât. Ewch yn syth ar draws y cae i’r giât fferm (ar ochr chwith y gwrych a thŷ mawr gyda tho gwellt) i’r ffordd.
Trowch i’r dde, i fyny’r allt gan basio blwch postio a, bron ar unwaith, trowch i’r chwith i fyny’r trac (gyda’r arwydd Byway Cilffordd). Dilynwch hwn i’r pen ac yn syth ymlaen ar hyd y trac fferm tuag at Fferm Tyddyn Uchaf. Ewch dros y gamfa garreg i gerdded gyda’r gwrych ar eich ochr chwith i fynd dros gamfa arall. Croeswch y cae yma ar letraws i’r dde er mwyn mynd i’r lôn a throi i’r chwith ar hyd y lôn yma.
Dilynwch y lôn dros y groesffordd tuag at y bryn coediog o’ch blaen. Gerllaw’r coed ewch drwy’r Giât Mochyn ar eich ochr dde, parhau i fyny’r allt am 300 metr, yna dilynwch y llwybr i’r chwith i mewn i’r coed ac ymlaen i gopa’r Gop. O’r copa cerddwch i lawr i bentref Trelawnyd (sydd i’w weld yn amlwg i’r de) gan ddilyn arwyddion y llwybr troed.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
Ffeil GPS y Llwybr arall - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
O’r pentref, defnyddiwch y groesfan i gerddwyr i fynd i Eglwys San Mihangel. Dilynwch y lôn heibio’r eglwys at bont. Ar ôl croesi’r bont cymerwch y trac ar eich ochr chwith. Rydych yn awr ar Daith Clwyd. Dilynwch y llwybr yma, gan basio’r fynedfa i fyngalo (Swyn y Mynydd) ar eich ochr chwith, ac ewch at gamfa. Croeswch dros hon i lwybr ceffyl a chymryd y llwybr amlwg o’ch blaen i fynd dros bont droed (pont gerbyd y ffermwr) i gae arall. Yma anelwch am gornel chwith uchaf y cae at gamfa tu ôl i lwyni. Croeswch dros y gamfa yma a cherddwch gyda’r gwrych ar eich ochr chwith i fynd dros gamfa arall at drac. Trowch i’r dde ar hyd y trac yma at ffordd goncrit a llyn.
Trowch i’r dde eto ar hyd y trac dros y bont i fynd naill ai dros y gamfa neu drwy’r giât i mewn i’r cae. Ewch yn eich blaen gyda’r gwrych ar eich ochr chwith. Ar ôl dwy gamfa arall byddwch yn cyrraedd camfa sy’n eich cymryd i’r chwith i’r goedwig. Dilynwch y ffordd gyda chyfeirbwyntiau, gan ddefnyddio tramwyfa bren dros ffos, drwy’r coed ac yna ar draws y cae i’r lôn. Trowch i’r dde ac yna’n syth i’r chwith dros gamfa arall.
Ewch drwy’r cae yma a’r un nesaf gyda’r gwrych ar eich ochr dde. Croeswch dros y lôn a dilyn y llwybr gyda chyfeirbwyntiau wrth iddo groesi dros dair camfa arall i gyrraedd lôn. Trowch i’r chwith ar hyd y lôn a’i dilyn at y ffordd yn Nhynewydd. Trowch i’r chwith ar hyd y ffordd yma tuag at y bont fodern sy’n croesi dros yr A55.
Unwaith y byddwch wedi croesi'r bont, trowch i’r chwith i’r llwybr ceffyl sydd ochr yn ochr â’r A55. Cymerwch y gamfa a’r llwybr gyda chyfeirbwyntiau, ar y dde, yn syth ar draws y cae (tua’r de gan basio’r dalaf o’r coed derw), croeswch gamfa i ddilyn llwybr gyda ffens o amgylch y maes awyr i gyrraedd dreif y fferm (Bryn Gwyn Bach) a throi i’r dde ar ei hyd at y giât. Pan gyrhaeddwch y lôn trowch i’r dde a cherdded at groesffordd a throi i’r chwith i fyny’r allt i basio tŷ (Bryntirion)
Wrth i chi gyrraedd ael y bryn cymerwch y trac mynediad ar eich ochr dde. Pan gyrhaeddwch y pen (wrth y giât i Benymynydd) ewch drwy’r giât mochyn ar eich ochr chwith a cherdded i fyny at yr ail giât mochyn ar eich ochr dde. Croeswch y cae i dop y bryn (o’r fan yma mae golygfa wych o Ddyffryn Clwyd gyda Dinbych ar yr ochr chwith, Llanelwy o’ch blaen a’r Afon Clwyd yn llifo i’r môr yn y Rhyl, ar yr ochr dde). Cymerwch y gamfa ar eich ochr chwith (dros y ffens wifrau) a dilyn y llwybr troed yn lletraws i’r dde i lawr ochr y bryn at lwybr ceffyl. Trowch i’r chwith ar hyd y llwybr ceffyl yma (rhan o Lwybr Clawdd Offa). (Gallech ymweld â Choleg Sant Beuno drwy drefnu hynny o flaen llaw. I wneud hynny trowch i’r dde).
Gadewch y Llwybr Cenedlaethol yma ar ôl oddeutu 200 metr (pan fydd yn mynd i fyny’r allt) a chymryd y llwybr ceffyl, ar y dde, i lawr tuag at bentref Tremeirchion. Bydd y llwybr ceffyl yn troi’n lôn ac, wrth y bwthyn cyntaf (Ysgubor) cymerwch y llwybr troed dros y gamfa ar eich ochr chwith i groesi nant fechan. Dilynwch y llwybr troed yma dros dri chae a chamfa i bentref Tremeirchion a welwch o’ch blaen. Trowch i’r dde i Eglwys y Corpus Christi.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
(Saesneg yn unig)
Follow the road downhill from the Church and take the right fork. Take the first road to the left - signed Trefnant. Take care walking alongside what can be a very busy road. Follow to the first footpath along a track on your right. Follow this footpath around Plas Coch. After passing the back of the farmhouse go through a gateway on left and follow path alongside left hand side of the field to a stile. Cross over and walk down to the lane.
Turn left along it to cross a bridge and follow the lane straight ahead to a T junction with a Chapel opposite. Turn right to pass The Farmers Arms at Waen.
After passing the pub take the lane on the left. When the lane bends left to a cattle grid, go over the stile on your right. Follow the footpath signs across open fields (view of St. Asaph Cathedral tower). When you reach the bottom of valley bear right to cross a steel footbridge over the River Clwyd.
OS Explorer 264
Follow the Clwydian Way, once more, to the disused railway track and turn right. Follow the track past the the school to reach the main road. Turn right to the Cathedral.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
Gadewch yr Eglwys Gadeiriol a cherdded i lawr drwy’r dref a thros y bont. Trowch i’r chwith a pharhau ar hyd y ffordd yma. Ewch yn eich blaen wrth y gyffordd i basio’r ffatri ar eich ochr chwith. Cymerwch y ffordd gyntaf ar eich ochr chwith a dilyn hon am 1.4 milltir/2.2 km. Ewch i’r dde pan gyrhaeddwch fforch yn y ffordd a chyn hir byddwch yn cyrraedd yr eglwys fawreddog yng Nghefn Meiriadog. Ewch i’r chwith wrth y fforch nesaf ac i lawr i’r Gyffordd T. Trowch i’r dde i Bont Newydd. Croeswch dros y bont.
Trowch i’r dde i fyny’r allt. Ar ôl 100 metr cymerwch y llwybr troed ar y chwith a dilyn drwy’r coed at giât i ddod allan i’r cae. Mae’r llwybr yn gwyro’n lletraws i’r chwith i fynd i fyny’r allt a thrwy giât i’r cae nesaf. Dilynwch y llwybr ar hyd ochr y gwrych i ymuno â’r trac wrth ochr fferm Croen Llwm Mawr.
Croeswch y ffordd a chymryd y trac gyferbyn i’r fferm yn Nhyddyn Bartley. Mae’r llwybr yn mynd rhwng y ffermdy ac adeiladau’r fferm. Ewch drwy’r gatiau a throi i’r dde ar ôl yr ail i mewn i gae. Cerddwch ymlaen gyda’r coed ar eich ochr dde i’r gornel dde bellaf. Ewch dros gamfa i drac sydd wedi’i amgáu a throwch i’r chwith i fynd drwy giât i’r lôn yn Nhŷ’n y Bedw. Cerddwch 200 metr ar hyd y lôn yma i’r gyffordd gyntaf a throi i’r dde i lawr yr allt tuag at y bwthyn. Gan basio ochr chwith y bwthyn, ewch drwy’r dyffryn bychan yma, dros bont droed ac yna i fyny i’r ffordd. Yn y fan yma ewch i’r dde ac yna’n syth dros y groesffordd.
Ar ôl 150 o fetrau, cymerwch y llwybr troed ar y chwith. Mae hwn yn dilyn y ffens am ychydig o bellter, tua 50 metr, ac yna’n mynd yn syth ar draws y cae i gamfa. Dilynwch y llwybr gyda’r cyfeirbwyntiau at y ffordd.
Trowch i’r dde a dilyn y ffordd nes cyrhaeddwch fforch. Cymerwch y ffordd ar y chwith i gyrraedd cyffordd. Yma mae gennych ddau opsiwn:- Parhau, troi i’r chwith i fyny’r ffordd nes cyrhaeddwch ardal o eithin ar yr ochr dde. Yma, cymerwch y llwybr troed drwy’r ardal hon i gyrraedd camfa sy’n hawdd ei gweld. Neu, i fynd i ymweld â Llannefydd, trowch i’r dde yma a dilyn y ffordd am 500m i’r pentref.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
Gadewch y pentref a dilynwch eich camau yn ôl tuag at y llwybr troed wrth yr eithin. Trowch i’r dde ac ewch dros y gamfa. Ewch yn lletraws ar draws y cae tuag at y ffens ac at giât. Yn awr, ewch yn lletraws i’r chwith at gamfa ac yna dilynwch y llwybr gyda chyfeirbwyntiau, gan basio uwch ben fferm Derm. Arhoswch i fyny ar ochr y bryn uwch ben yr eithin a phasio coedwig fechan ar y chwith i ddilyn llwybr i lawr at y giât a grid gwartheg. Cerddwch ar hyd ffordd fynedfa’r fferm, drwy giât arall gyda grid gwartheg i’r ffordd, a throi i’r dde.
Yn Hafodty trowch i’r chwith drwy giât gyferbyn. Cerddwch i lawr y llwybr gyda’r ffens ar eich ochr chwith. Yn y cae nesaf ewch yn lletraws i’r chwith at gamfa gerllaw cornel chwith y cae. (Mae’r gamfa hon wedi’i chuddio ar hyn o bryd gan goeden sydd wedi cwympo). Croeswch dros y gamfa a pharhau gyda’r ffens ar eich ochr dde. Dilynwch y llwybr gyda’r cyfeirbwyntiau ac yn y pen draw byddwch yn mynd yn lletraws i lawr at gamfa yng nghornel bellaf y cae. Croeswch hon i ymuno â thrac concrit y fferm at y lôn. Ewch dros y Grid Gwartheg i droi i’r dde i lawr yr allt.
Ar ôl 50 metr cymerwch y llwybr troed ar y chwith i lawr dros gamfa ac ar draws y nant. Pasiwch yn syth o flaen Cae’r Groes a, gan anwybyddu’r llwybr sy’n mynd i ffwrdd i’r chwith, ewch i lawr at y lôn. Ewch yn syth ar draws i fynd dros y gamfa ar y dde cyn y bwthyn. Ewch i lawr i groesi’r bont droed dros yr afon. Trowch i’r chwith i gerdded ar hyd y llwybr gyda’r nant ar eich ochr chwith a’r gwrych ar eich ochr dde. Pasiwch o flaen y tŷ i fynd drwy’r giât ar y dde ac ymlaen i’r ffordd fynediad, sydd yn y diwedd yn troi’n ffordd darmac, at y lôn. Trowch i’r chwith dros y ddwy bont i mewn i gymuned Rhyd yr Arian.
Cerddwch heibio’r blwch ffôn dros bont arall i gymryd y llwybr troed yn syth ar eich ochr dde er mwyn ail groesi’r afon. Rydych yn awr ar Daith Clwyd eto a dilynwch y trac yma i fyny drwy’r coed. Wrth i chi gyrraedd y top, mae’r llwybr yn gadael y trac i fynd o flaen a heibio i’r byngalo at drac arall. Dilynwch hwn i lawr i groesi’r afon unwaith eto. Yn syth ar ôl croesi’r afon cymerwch y trac ar y dde at gamfa sydd ochr yn ochr â giât. Dilynwch y trac yma drwy gyfres o gatiau neu dros gamfeydd nes yn y pen draw byddwch yn cyrraedd y ffordd Trowch i’r dde i bentref Llansannan.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
(Saesneg yn unig)
From the Church walk past the pub and the sculpture (on the right) and take the lane Ffordd Gogor on the left.
Just after the last house in the village and at the farmhouse of Gogor Canol take the path, left, through the farmyard.
Bear right after you go through the farmyard. This again is the Clwydian Way. After crossing over the bridge turn right and walk with the river also on your right over the stiles. The path enters a woodland. Follow for about 800 metres. Here the track widens slightly and look out for a path going down to the right. Take this over the footbridge. You now have a short but quite difficult and slippery climb both up and down. Cross the next stile to the road and take the track opposite. (This section can be avoided by following the road and forking left after the farm - Gogor Canol - above.)
Walk along the riverside to the former mill. Ignore the track going right over the bridge at this point. Continue up the now metalled road to the lane. Continue up hill to the cross roads.
Turn right along the road passing Acrau-uchaf on your left. When the road bends at Rhŷd-loew leave the Clwydian Way and go straight ahead along the lane ahead. In about 500metres go through the gate on your right and follow it to go across the river. Follow the track to the house ahead. Here turn left along a track with white fence to the next house at Hendre Aled.
Go through and past the buildings and then take the footpath, left, through the gate (stile alongside with Clwydian Way trailmarker) and into the field and behind the barn.
The path now goes uphill to go over two stiles to the farm at Cleiriach. After the second one turn right along the farm access road which then bends to the left. Follow this to go over a cattle grid and turn right on to the Common. At the road junction the Clwydian Way alternative is joined turn left along it to At the next junction and then turn right.
Follow this lane until it bends sharply right. Go through the gate, left, and follow the track across a shallow stream and up the hill into the field. After about 70 metres, where the track goes left towards the sheep pens, leave it and go directly ahead towards a gate in the fence. Follow the path downhill with the stream alongside and to the left.
Continue until you reach the derelict buildings at Hafod-gau which are in a slight dip and surrounded by conifers. Go left through the gate and then another one to pass to the right of the building. Walk uphill, left, to reach a stile and cross over to the lane.
OS Outdoor Leisure 17
Cross over to the footpath on the other side of the lane. Walk with the fence on your left to go over two more stiles and a small footbridge. Continue directly ahead to a small ravine. Taking care walk down to ford the stream and take the path up the otherside to a gate.
Continue ahead moving away from the right hand fence to go through gap in hedge/fence and down through two gates to the lane. Turn right along it.
Almost immediately turn left along the road towards the farm at Llethr. As the farm road bends to the right take the footpath, go through a kissing gate ahead, and cross over to a gate in the fence on the left. Go through it and walk with the fence on your right to go down to a gate and cross a stream. With the stream on your right go slightly left uphill through a gate to walk across the field to the hedge. Continue with the hedge on your right through another field and over a stile.
Go initially straight ahead but almost immediately left to go over the low hill. Bearing slightly right head for a stile in the hedge and fence line. Turn right and follow to lane. Turn left and along the road to the village at Gwytherin.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma (Saesneg yn unig)
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
Mae dau opsiwn o’r fan yma.
1. Y Brif Lwybr – Cymerwch y llwybr troed gyda’r arwyddion arno sydd wrth ochr y Lion Inn a gerllaw’r bocs ffôn a’r sedd i fynd i fyny’r allt drwy lannerch goediog i ddod allan mewn cae. Dydy’r llwybr yma ddim yn amlwg iawn ac os byddwch yn gadael y goedwig cyn y top, cerddwch gyda hi (y goedwig) ar eich ochr chwith. Cerddwch i fyny’r allt ac anelu am gamfa ar ochr chwith ffermdy (adfeiliedig) Penygraig. Ewch dros y gamfa a thoi i’r dde tu ôl i’r adeiladau at gamfa arall ac i’r trac mynediad. Trowch i’r chwith ar hyd hwn i dop yr allt lle mae'n gwyro i’r dde. Trowch i’r dde ac ewch drwy’r giât i’r lôn. Mewn oddeutu 70 metr croeswch drosodd i’r chwith tuag at y ffens. Cerddwch ochr yn ochr â’r ffens a thrwy giât mochyn. Croeswch y gamfa yn y ffens i gyrraedd y ffordd.
Trowch i’r chwith ar hyd y lôn i’r gyffordd yn Nhŷ-uchaf-i’r-ffordd
(parhad isod)
2 Drwy Bennant – Maen nhw’n dweud mai yn y dyffryn anghysbell yma yr oedd yr Abaty lle treuliodd Santes Gwenffrewi ei blynyddoedd olaf. Os oes unrhyw beth ar ôl ohono, ychydig iawn sydd. I ymweld â’r safle yma, cymerwch y ffordd heibio i’r Lion Inn ac i fyny i’r cwm. Anwybyddwch y ffordd sy’n mynd i fyny’r allt ac ewch i lawr yr allt i gyrraedd ffordd arall sy’n mynd i ffwrdd i’r dde.
Dyma’r ffordd fynediad i Daipellaf. Dilynwch hon heibio i’r fferm a’r adeiladau. Mae safle tebygol yr Abaty wedi ei farcio gan dwmpath mawr o gerrig ar eich ochr chwith. Parhewch i fyny’r trac yma drwy gatiau i’r lôn a throwch i’r dde. Cymerwch y llwybr ar y chwith drwy giât a dilynwch drwy ddwy giât arall yn syth o’ch blaen i fynd i ddarn garw o gefn gwlad – mae’r llwybr yn y fan yma’n ddarniog ac yn aneglur.
O’r diwedd byddwch yn dod at ffens ar eich ochr chwith – dilynwch hon at gamfa. Ewch dros honno, anelwch am y trac o’ch blaen a dilynwch hwn i’r ffordd yn Nhŷ-uchaf-i’r-ffordd. Nodwch bod y darn yma dros ddarn garw o gefn gwlad sy’n gallu bod yn eithriadol wlyb ac anodd. Nodwch hefyd nad yw’r darn yma wedi ei gyfeirbwyntio gyda marcwyr Taith y Pererin.
Trowch i’r dde a chymryd y lôn tuag at y ffermydd. Ar ôl pasio’r fynedfa i Fryn Pair Uchaf dilynwch y ffordd nes bydd yn gwyro i’r chwith. Yma ewch drwy’r giât o’ch blaen. Ar ôl y drydedd giât ewch i’r chwith ar hyd y gwrych ac yna trowch i’r dde gyda’r gwrych a’r goedwig ar eich ochr dde. Dilynwch y llwybr ceffyl yma i ymuno â’r lôn i fynd heibio’r fynedfa i Dŷ Celyn. Yn fuan ar ôl pasio giât ar eich ochr chwith ewch dros y gamfa, sydd hefyd ar yr ochr chwith, a dilynwch y llwybr drwy ddwy giât mochyn i lawr i Bandy Tudur.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
Ewch dros y bont a throi i’r dde i fyny allt serth fer (wedi ei marcio fel un sy’n anaddas i lorïau mawrion). Ar y top trowch i’r dde ar hyd y lôn tuag at yr Hen Ficerdy ac i’r A 548. Trowch i’r dde a cherdded ar hyd y ffordd yma am ychydig i gymryd y lôn ar y chwith i fyny tuag at y fferm yn Llwyn Du Isaf.
Wrth y fferm ewch i’r dde rhwng y fferm ac adeiladau’r fferm. Ewch drwy’r giât i’r lôn werdd rhwng dau gae. Ar y top ewch dros gamfa. Cerddwch yn lletraws i’r dde ar draws y cae at gamfa ac yna i’r chwith dros y cae nesaf i fynd drwy giât i’r lôn. Trowch i’r dde ac yna cymerwch y llwybr troed mewn oddeutu 100 metr ar y chwith. Mae’r llwybr yn drac i ddechrau sy’n gallu bod yn fwdlyd. Yna mae’n mynd drwy giât ac yn gwyro i’r dde.
Dilynwch y ffens am oddeutu 100 metr ac wrth giât (ar eich ochr dde) trowch yn lletraws i’r chwith i lawr yr allt a chroesi’r cae i’r gornel bellaf. Yma mae camfa ysgol sydd wedi’i chuddio’n rhannol gan goed.
Ewch dros y gamfa a phont droed ar draws y nant. Nawr mae’r llwybr yma’n dilyn y nant at fynedfa Plas Hafodunos. Mae’r darn yma’n arbennig o ddeniadol ac, ar ôl yr ail gerflun o bererin, mae’n mynd i lawr drwy geunant coediog prydferth. Ond gall y llwybr fod yn fwdlyd, gwlyb a llithrig. Wrth Borthdy Plas Hafodunos, trowch i’r dde i mewn i bentref Llangernyw.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
Ewch yn ôl tuag at Blas Hafodunos ar y ffordd y daethoch. Ar ôl pasio’r ystâd dai fechan yn Fedwen Arian ar eich ochr chwith, cymerwch y trac i’r dde heibio i’r bwthyn. Dilynwch y llwybr troed yma i fyny’r allt, gan basio ar ochr dde adfeilion ffermdy Crei.
Mae’r llwybr yn mynd yn syth tuag at y gefnen gan anelu am y polyn trydan. Wrth y ffens trowch i’r dde a dilyn y ffens drwy eithin at gamfa ac yna i ochr y bryn. Dilynwch y llwybr i’r lôn. Trowch i’r chwith ar hyd y lôn yma a’i ddilyn i’r gyffordd gyda’r B 5113. Croeswch y ffordd a’i dilyn gan basio Gosen a Bwthyn Tŷ yn y Mynydd ac i lawr allt serth. Ar ôl y troad tynn, cymerwch y ffordd i’r dde a dilyn hon tuag at y Cathdy ym Mryn-gwian.
Ar ôl pasio’r cathdy mae’r ffordd yn troi’n drac sy’n mynd heibio pwll hwyaid. Dewiswch y fforch i’r chwith bron yn syth wedyn ac yna ewch yn eich blaen rhwng y ffermdy a’r adeiladau yn Nhŷ Mawr. Nawr mae’r trac yn troi i lawr yr allt gan basio tŷ arall ar eich ochr chwith. Pan fyddwch yn cyrraedd cyffordd y traciau, trowch i’r dde i fyny’r allt i Ebrill Esgair.
Ewch i’r chwith yn union cyn y ffermdy ac yna rhwng yr adeiladau i fynd drwy’r giât ar y dde. Dilynwch y llwybr yma i groesi nant (sydd yn sych yn aml iawn) ac yna dros gae ar hyd llwybr amlwg. Rydych yn anelu am y peilon yn y pellter. Pan ddewch at giât gyda chyfeirbwynt yn pwyntio i’r dde, peidiwch â mynd drwyddi! Cerddwch ymlaen i’r dde i gerdded gyda’r gwrych ar eich ochr chwith. Dilynwch hwn i fynd drwy giât arall i lôn a thoi i’r chwith.
Ewch i lawr yr allt a thrwy giât i ochr dde ffermdy Tŷ Du. Cerddwch ar hyd y ffens yma ac, mewn pellter o oddeutu 40 metr, ewch drwy giât cerddwyr i groesi pont droed i mewn i goedwig. Dilynwch y llwybr drwy’r coed ac i mewn i gae. Ewch yn lletraws i’r dde i fyny’r allt tuag at y polyn trydan. Yna ewch drwy giât fferm a phasio’r ffermdy yn Llwyn Du i lôn.
Croeswch y lôn yma i lôn werdd gyda giât. Dilynwch hon i lawr yr allt nes cyrhaeddwch droad tynn i’r chwith. Yma, trowch i’r dde i fyny’r allt ac ar hyd ochr y goedwig. Yna mae’r llwybr yn gwyro i’r chwith ac yn parhau drwy’r goedwig at lôn. Ewch i’r chwith i ddilyn y lôn yma’n serth i lawr yr allt i bentref Eglwysbach.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
Ar ôl pasio’r Eglwys, lle mae’r ffordd yn troi ychydig i’r dde, cymerwch y lôn gul i’r chwith i fynd dros y nant. Trowch i’r dde wrth y gyffordd a pharhau i’r ffordd. Trowch i’r chwith ac ewch i’r chwith eto pan fydd fforch yn y ffordd. Mae’r ffordd yma’n arwain at y groesffordd yn Nhalycafn.
Ewch yn syth ymlaen ar y groesffordd, yna dros y groesfan reilffordd a’r bont. Cerddwch i fyny’r allt a throi i’r dde i mewn i encilfa. Cymerwch y llwybr troed sy’n mynd i’r chwith. Dilynwch y llwybr yma i’r ffordd nesaf. Trowch i’r dde a chymryd y fforch chwith i’r B5106. Ewch i’r dde i gymryd y llwybr troed nesaf ar y chwith.
Cymerwch y llwybr yma, sy’n gallu bod yn weddol wlyb a mwdlyd, tuag at y fferm. Cerddwch drwy’r ddwy giât at y fferm. Pasiwch ar ochr dde’r ffermdy ac yna’n syth drwy giât arall. Ewch yn syth ymlaen a thrwodd i’r cae nesaf. Trowch i’r chwith a cherdded gyda’r gwrych ar eich ochr chwith i fynd dros gamfa i mewn i gae arall. Cerddwch i lawr yr allt ychydig ac anelu am y giât ar eich ochr dde.
Ewch drwy hon ac yn syth ar draws i fynd drwy giât arall. Ewch yn syth ymlaen ac i fyny’r allt i fynd drwy giât i ochr chwith coedlan fechan ac ymuno â thrac. Dilynwch y trac yma i adeiladau fferm Glyn Uchaf. Trowch i’r chwith i fynd drwy’r buarth fferm yma rhwng y tŷ ac adeiladau’r fferm. Dilynwch ddreif y fferm i’r lôn.
Croeswch dros y lôn ac ewch drwy’r giât mochyn. Mae’r llwybr yn mynd yn syth ymlaen gan basio ochr chwith y coed yn y pellter. Ewch yn eich blaen yn awr gyda’r gwrych ar eich ochr dde i fynd dros ddwy gamfa ysgol i’r lôn. Trowch i’r dde i gerdded i mewn i Rowen.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
O’r dafarn, cerddwch heibio i’r Capel sydd fel arfer yn agored i ymwelwyr, er mwyn cymryd y llwybr troed ar yr ochr dde rhwng y bythynnod. Ewch heibio i’r fferm a drwy’r giât i’r cae. Ewch yn eich blaen ar hyd ochr chwith y cae i fynd drwy giât neu dros gamfa i drac a throwch i’r dde. Pan fydd y trac yma’n gwyro i’r dde, croeswch dros gamfa o’ch blaen a cherdded eto ar hyd ochr chwith y cae. Croeswch dros gamfa a cherdded i fyny’r llwybr amlwg yn syth i fyny at giât sy’n dirwyn i’r lôn. Trowch i’r dde ar hyd y lôn. Yn Llwyn On, gadewch y lôn a chymryd dreif y fferm ar eich ochr chwith. Mae hwn yn arwain at gamfa ysgol fawr a serth. Ewch i mewn i’r cae ac ar letraws ar draws y cae at giât. Ewch drwy’r giât gyda’r wal ar eich ochr dde tuag at y bwthyn. Ewch dros y bont droed garreg i’r lôn.
Ewch i mewn i’r goedwig a cherdded yn syth yn eich blaen. Pan gyrhaeddwch y trac sy’n dod o’r ffordd, trowch i’r chwith i fyny’r allt. Rydych yn awr ar “Lwybr yr Arch” hynafol sy’n arwain yn y pen draw at yr eglwys fechan yn Llangelynnin.
O’r eglwys fechan hon ewch yn eich blaen o amgylch y wal tu allan i gymryd y trac sy’n mynd i’r chwith i fyny’r allt ac i ddarn agored o gefn gwlad. Cymerwch y llwybr ar yr ochr dde, anelwch at ben y wal yn y pellter ac ar ôl croesi’r nant wrth y rhydiau, cymerwch y llwybr sy’n aros yn agos at y wal ar eich ochr dde. Ar y pwynt yma mae golygfeydd eang dros Ddyffryn Conwy, Tref Conwy a’r Castell.
Pan fyddwch yn cyrraedd y corlanau defaid yn Nhyddyn-grasod trowch i’r chwith ar hyd y llwybr i fynd dros y tir agored (anelwch ychydig i ochr dde’r bryn gyda chopa gwastad yn y pellter).
Ewch yn syth ymlaen gan anwybyddu’r llwybrau ar y chwith a’r dde, a phan ddewch i ael y bryn cerddwch ymlaen tuag at grŵp o goed o fewn wal a phasiwch y rhain ar y dde. Nawr mae’r llwybr yn ymuno â Llwybr Gogledd Cymru ar y postyn cyfeirbwyntiau.
Ewch yn syth ymlaen ac i lawr at y nant. Croeswch dros y bont droed a dilynwch y llwybr i fyny at bostyn cyfeirbwyntiau ac yna ewch i’r chwith. (I fynd i Benmaenmawr, ewch at y wal, dringwch y gamfa ysgol a dilynwch y traciau a’r daith gyda chyfeirbwyntiau i lawr i’r dref).
Dilynwch y llwybr at giât mewn wal a throi i’r chwith i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru. Nawr mae Llwybr Gogledd Cymru a Llwybr Arfordir Cymru’n dilyn yr un daith. Daliwch ymlaen i ddilyn y llwybr gyda chyfeirbwyntiau am ¾ milltir heibio i Fryn Derwedd ar eich ochr dde at y cylchoedd cymhleth o feini hirion ar eich ochr chwith yn uchel uwch ben tref Penmaenmawr.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
I ymuno o Benmaenmawr, cychwynwch o’r maes parcio tu ôl i’r Llyfrgell gerllaw Ffordd Bangor. Ewch i fyny’r stepiau sydd ar ochr chwith y fflatiau, ar dop y stepiau trowch i’r dde yna gwyrwch i’r chwith (anwybyddwch y trac carreg cyntaf ar eich ochr chwith) a dilynwch y lôn gyda’r tai ar eich ochr dde ar hyd ymyl y cae chwarae ac ymlaen at y ffordd. Trowch i’r chwith ac yna i’r dde ar y llwybr troed cyntaf heibio’r bythynnod (sef yr hen Fferm Craiglwyd gynt) i ail ymuno â Llwybr Gogledd Cymru a Llwybr Arfordir Cymru wrth y postyn marcio llechen amlwg.
Wedi i chi ymweld â’r Cylchoedd Cerrig ewch yn ôl at y prif lwybr a’i ddilyn i’r gorllewin at bostyn marcio lle mae Llwybr Arfordir Cymru’n gadael ar y dde i fynd i lawr i Lanfairfechan. Nawr ewch yn eich blaen ar Lwybr Gogledd Cymru a’i gyfeirbwyntiau sydd yn y pen draw yn mynd heibio fferm ac yn dilyn y trac fferm at lôn darmac. Ewch yn eich blaen i lawr y lôn at gyffordd T. Trowch i’r chwith a dilyn y ffordd i lawr at fynedfa Gwarchodfa Natur Nant y Coed.
Gan barhau ar Lwybr Gogledd Cymru, croeswch y nant a gwyro i’r dde gan ddilyn y ffordd (Ffordd y Dyffryn) i ymuno â Terrace Walk. Anwybyddwch y llwybr troed cyntaf ar y chwith a pharhau tuag at giât mochyn fetel ar eich ochr chwith. Trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr sydd yn awr yn dringo’n raddol i fyny’r allt i gyrraedd giât mochyn fetel mewn wal.
Mae’r llwybr yn parhau i fyny’r allt am 0.3 milltir/0.5 km arall gan groesi’r tir agored i gyrraedd maen fawr yn y pendraw ar y Ffordd Rufeinig. Trowch i’r dde i ddilyn y llwybr hynafol yma i lawr i faes parcio bychan. Dilynwch y ffordd i lawr at y bont yn y fforest yn Abergwyngregyn. Mae’r pentref oddeutu cilomedr i lawr y ffordd.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
Os nad ydych yn ymweld â’r pentref trowch i’r chwith cyn y bont i ddilyn Llwybr Gogledd Cymru a cherddwch i fyny’r ffordd i’r maes parcio. Yn union cyn cyrraedd y maes parcio cymerwch y llwybr ar y dde gyda’r arwydd Rhaeadrau ac ewch dros y bont. Dilynwch y llwybr yma am 1.25 milltir (2.1 km) at y rhaeadrau. Mae Llwybr Gogledd Cymru’n mynd heibio rhaeadr arall ac yna’n dringo’n araf o amgylch ochr y bryn. Yn fuan wedi i chi basio o dan y llinellau trydan byddwch yn cyrraedd sedd sydd â golygfeydd eang dros Ynys Môn, y Gogarth a thu hwnt i Ogledd Orllewin Lloegr.
Daliwch ymlaen i ddilyn Llwybr Gogledd Cymru i fynd o dan y llinellau trydan am yr ail waith – oddeutu 2 km. Ar ôl pasio o dan y trydydd o’r llinellau trydan mae’r llwybr yn awr yn croesi nifer o nentydd a byddwch yn y pen draw yn cyrraedd giât mewn ffens a wal. Parhewch ar hyd y brif lwybr sy’n dirwyn a throelli nes byddwch yn pasio man coediog ar eich ochr dde (Nant Heilyn). Ar ôl 300 m arall, bydd y trac yn eich arwain allan i lôn.
Trowch i’r chwith a cherdded ar hyd y lôn. Anwybyddwch y ffordd sy’n mynd i lawr yr allt ar y dde. Pan fyddwch yn cyrraedd y llinell drydan, cymerwch y llwybr troed i’r dde tuag at Blas Uchaf. Ewch drwy’r giât mochyn a heibio’r fferm. Croeswch y cae nesaf ar hyd trac gwyrdd tuag at y coed.
Wrth y peilon a’r eithin trowch i’r chwith ar hyd llwybr troed, gyda’r wal ar eich ochr dde, ac anelu am beilon arall. Croeswch y nant i fynd o amgylch y lan at y trac. Trowch i’r dde a cherdded at y giât nesaf wrth drac. Croeswch drosodd at weddillion camfa garreg a cherdded gyda’r wal ar eich ochr dde. Yn union cyn y tŷ nesaf ewch i’r chwith dros gamfa. Cymerwch y gamfa nesaf ar eich ochr dde i fynd ar ffordd fynediad. Trowch i’r dde ar ei hyd tuag at y lôn. Ewch i’r chwith i fyny’r lôn nes cyrhaeddwch gamfa yn y wal ar eich ochr dde. Rydych yn dal i ddilyn Llwybr Gogledd Cymru a dylech fod yn dal i chwilio am eu marcwyr nhw yn ogystal â marcwyr Taith y Pererin.
Parhewch ar draws y cae gyda’r wal ar eich ochr dde. Pan gyrhaeddwch giât yn y wal gerllaw hen adeiladau, trowch i’r chwith gan ddilyn y trac i fyny i gae sydd wedi’i amgylchynu ag eithin. Trowch i’r dde a chadw’r eithin ar eich ochr dde, dewch o hyd i lwybr drwy’r eithin a fydd yn arwain at gamfa ger nant fechan. Croeswch hon i fynd i gae arall ac, yn y pen draw, byddwch yn cyrraedd lôn.
Yma trowch i’r dde ar hyd y lôn am oddeutu 0.6 milltir/1km nes byddwch yn gweld troad i’r chwith at Blas Cochwillan. Gan fynd i’r dde o amgylch yr hen gartref gwych yma, ewch ar hyd y trac tuag at y coed. Trowch i’r dde drwy’r giât mochyn a cherdded ar hyd ymyl y goedwig. Dilynwch y llwybr i lawr nes byddwch yn y pen draw’n gweld yr afon ar eich ochr chwith, cyn cyrraedd y felin ddŵr. Trowch i’r chwith wrth y felin a dilynwch y llwybr ar draws yr afon gan ddod allan i drac/lôn.
Ewch i’r dde yn y fan yma i fynd o dan yr A55. Mae’r ffordd fynediad yn gwyro i’r chwith ac yna i’r dde gan droi’n fetlin. Dilynwch hon gan basio maes y clwb rygbi ar eich ochr chwith a pharhau’n syth i lawr y lôn. Trowch i’r chwith ar y troad cyntaf. Yma byddwch yn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru. Ewch i’r dde drwy’r llwyni i ddilyn y llwybr at arhosfan fysiau ar ffordd fawr. Croeswch y ffordd at lwybr troed sy’n rhedeg gerllaw siafft awyr y rheilffordd sy’n edrych fel twred castell bychan. Mae’r llwybr yma’n mynd at lôn arall y byddwch yn ei chroesi at lwybr arall sy’n eich cymryd i lawr wrth ochr parc diwydiannol. Pan fyddwch yn cyrraedd ffordd, trowch i’r chwith ac ewch i lawr at ben y ffordd ac yna drwy rwystrau. Trowch i’r dde i ymuno âr hen drac rheilffordd i mewn i Borth Penrhyn.
Trowch i’r chwith a dilyn Llwybr Arfordir Cymru dros y bont ac i fyny’r allt i ffordd yr A5. Croeswch hon yn ofalus a mynd drwy’r bolardiau i Ffordd Penybryn. Dilynwch y ffordd o dan bont garreg ac ar y pen trowch i’r chwith i mewn i’r Stryd Fawr. Cerddwch i lawr y stryd yr holl ffordd i Ganol Dinas Bangor ac at yr eglwys gadeiriol.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
A - Bangor i Dregarth
Gadewch yr Eglwys Gadeiriol a pharhau ar hyd y Stryd Fawr nes byddwch yn dod o hyd i lwybr sy’n mynd i ffwrdd i’r chwith yn syth ar ôl capel a chyn i chi gyrraedd y siop Lidl. Mae’r llwybr yma’n mynd dros Fynydd Bangor i gyrraedd lôn lle’r ydych yn mynd yn syth ymlaen ac yn ei dilyn o gwmpas i’r chwith. Cadwch i’r dde wrth y gyffordd nesaf ac yna trowch i’r chwith eto i gerdded i lawr yn serth i ryd lle byddwch yn ymuno â’r hen reilffordd chwarel. Trowch i’r dde yma a dilyn y trac prydferth yma tuag at Dregarth (3.5k) gan fynd dros bont newydd ei hadeiladu dros yr A 4244.
Ar ôl pasio o dan y bont ffordd nesaf, rydych yn dod at un arall llai dros y llwybr beiciau.
I barhau i Dregarth a Bethesda, arhoswch ar y Llwybr beiciau a dilynwch hwn i’r dref lle mae llety, caffis a siopau.
B - Tregarth i Ddeiniolen
Cerddwch i fyny’r llwybr ar ochr chwith y bont yma i fynd reit drosti. Dilynwch y llwybr yma at grŵp o adeiladau (hen drefgordd Pandy). Wrth yr adeiladau, trowch i’r dde ar hyd trac sy’n troi’n llwybr troed yn gyflym iawn ochr yn ochr â chefnen isel. Pan ddewch at drac arall, croeswch drosto i fynd drwy giât cerddwyr. Pan gyrhaeddwch y Coed Cadw ewch i’r chwith drwy’r giât. Dilynwch y llwybr troed yma, gan fynd tua’r dde, at y lôn.
Trowch i’r dde ar hyd y lôn. Ar y gyffordd groesgam, gwyrwch i’r chwith i ddilyn y lôn fetlin ac yn union cyn i chi gyrraedd dreif gyda giât arno, trowch i’r chwith i mewn i’r goedwig. Dilynwch y llwybr yma i fyny drwy’r coed at wal lle byddwch yn troi i’r dde i ddilyn y wal ar eich ochr chwith. Wrth y giât mochyn, trowch i’r chwith drwy’r bwlch yn y wal a pharhau drwy’r coed nes dewch i giât mochyn mewn wal. Ewch drwyddi a, gyda’r wal ar eich ochr dde, dilynwch y llwybr o amgylch ochr Moel-y-Ci at giât arall sy’n arwain allan i drac. Trowch i’r chwith ar hyd hwn i gyrraedd top yr allt yn Nhynllidiart. Yma mae’r lôn fetlin yn gostwng i lawr i’r dde. Yna cymerwch yr ail lwybr ar y chwith drwy giât. Mae’r llwybr/lôn yma’n pasio drwy ddwy fferm yng Nghae’r Gof. Ewch yn eich blaen a thrwy dri wal. Ar ôl yr olaf, ewch i fyny’r allt i fynd drwy’r wal ac i’r Comin.
Cerddwch gyda’r wal ar eich ochr dde at giât i adael y Comin. Ewch yn syth ar draws y cae ac i lawr ac ar draws y nant. Parhewch i fyny’r allt nes bydd y llwybr troed yn troi’n dynn i’r chwith. Mae hwn yn arwain at ffermdy adfeiliedig, Maes Meddygion. Pasiwch hwn ar ei ochr dde i gyrraedd tir agored eto. Parhewch dros ochr y bryn ac i lawr y ffordd wrth Ffridd Uchaf. Trowch i’r dde a chymryd yr ail lwybr troed ar y chwith a dilyn y llwybr yma i lawr i’r brif ffordd a throi i’r chwith i mewn i’r Stryd Fawr.
C - Deiniolen i Lanberis
Ar gyffordd y ffordd trowch i’r dde i lawr New Street. Ewch heibio i’r siop ar y gyffordd ffordd nesaf. Yma trowch i’r chwith i mewn i Dai Caradog gyda wal garreg yn gwahanu’r ffordd oddi wrth y tai gwarchod ar eich ochr dde. Cerddwch ymlaen at y pen a, lle mae’r ffordd yn troi i’r chwith, cymerwch y llwybr troed drwy’r giât mochyn ar eich ochr dde.
Ewch drwy hon a pharhau heibio’r tai i groesi nant gyda’i dwy bont droed at lôn. Trowch i’r chwith ac, ar ôl ychydig fetrau, cymerwch y llwybr troed nesaf ar eich ochr dde. Ewch i’r dde lle mae fforch yn y llwybr a dilynwch hwn i dop yr allt a throi i’r chwith ar hyd y ffordd fynediad at ffordd arall a throi i’r dde. Dilynwch y ffordd yma i’r tai ym Maes Eilian a chyn yr arhosfan fysiau cymerwch y llwybr ar y dde.
Pan fyddwch yn cyrraedd y lôn nesaf, croeswch hi i lôn arall. Cymerwch y llwybr troed i lawr ffordd fynediad ar eich ochr dde. Mae hon yn mynd i mewn i goed Parc Gwledig Padarn ac mae’r llwybr yn hawdd ei ddilyn i lawr drwy’r coed. Pan fyddwch yn gadael y goedwig, trowch i’r chwith ar hyd y ffordd i gwrdd â’r ffordd sy’n dod o’r Amgueddfa Lechi. Croeswch y ffordd yma i fynd dros bont droed a dilynwch y llwybr yma, gyda’r rheilffordd ar eich ochr chwith, i’r brif ffordd. Trowch i’r dde, yna croeswch y ffordd a throi i’r dde i mewn i Stryd Fawr Llanberis.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
O’r Eglwys yn Llanberis, cerddwch tuag at ganol y pentref. Trowch i’r chwith i Ffordd Capel Coch lle mae arwydd i’r Hostel Ieuenctid. Ar ôl pasio’r Capel ar eich ochr chwith, trowch i’r dde ac yna i’r chwith i fyny’r allt. Dilynwch y ffordd yma allan i ddarn agored o gefn gwlad. Yn y maes parcio bach anffurfiol ym Maen-llwyd-isaf, ewch i’r dde ar hyd y trac.
Dilynwch hwn dros y bryn gan basio hen chwareli yn gyntaf ac yna cerddwch ar ochr dde’r goedwig. Mae’r ffordd yn un fetlin yn awr a byddwch yn dilyn hon am 0.7 milltir/1.1 km arall. Yn syth ar ôl iddi droi i’r dde, cymerwch y llwybr troed (ffordd fynediad) ar y chwith yn Hafod Oleu i ddilyn y cyfeirbwyntiau sydd â lluniau gwas y neidr arnynt.
Pasiwch y ddau fwthyn ar y chwith ac yn union ar ôl y rhyd cymerwch y llwybr i’r dde i lawr yr allt gyda nant ar y dde. Yn y cae mwy, trowch i’r dde ar hyd y llwybr troed sydd yn awr yn dirwyn ar ochr dde wal drwy nifer o gaeau bychain yn dilyn cyfeirbwyntiau (gwas y neidr) Hafod Oleu i Fryn Pistyll yn Waunfawr. Dilynwch y lôn at y brif ffordd a throi i’r chwith.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
(Saesneg yn unig)
Follow the main road over the river and past the Snowdonia Inn. Take the lane on the right signposted Rhosygadfan. Follow this to pick up path going left to cross a stream. It then climbs up over two old metal ladder stiles on to the Common. Go straight ahead towards the left hand corner of the sheepfolds. The path goes alongside this wall and over towards Hafod Rhuffydd. A metalled road is now joined. Follow this until it bends to the right.
Here take the footpath going left – there is a waymarker post a little way along this path. The path is now waymarked across the moorland. When you come to a junction paths, marked by an extremely large stone to the right. Turn right towards it and follow the path past the waste tips for the disused Mynydd Tryfan Slate Quarry.
Follow the access road around to a cattle grid. Go over and take the right fork. Follow the path past another disused and flooded quarry. After going through the kissing gate walk with wall on your right. When you reach the house called Bethel, on your right, turn left to go through the Kissing Gate. Follow to the road. You are now on the Slate Trail
Follow the Slate Trail as it passes Canolfan Y Fron a community centre with a café, shop and hostel. Continue along the Slate Trail as it drops down through the Dorothea Quarry. When the track reaches a T junction turn right (the Slate Trail goes left) and follow towards the village of Talysarn. When you reach the small roundabout take the left fork to walk to the main road.
Turn left and walk towards the bridge. Just before it take the footpath down to walk alongside the river. Follow this footpath along the stream and then away from it until you reach the road, Cross over and briefly follow the cycleway and then the road into Penygroes.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
Ffeil GPX i’w lawrlwytho o’r Llwybr Arall - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma (Saesneg yn unig)
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
(Saesneg yn unig)
From the centre of Penygroes walk along the High Street and at the Post Office turn into Snowdon Street and follow it into Market Place and left into Station Road.
Go over the footbridge over the A487 and the cyclepath. Follow Ffordd Clynnog to the lane. Turn right and follow for a short distance to take the footpath on your left. Follow the footpath past the derelict farmhouse to another lane. Turn left along the lane Take the first track towards the buildings at the Woollen Mill.
Cross over the footbridge and follow the path to the right to join the access road to Lleuar Fawr. Go between the farmhouse and the farmyard to go towards the gates ahead and go through the righthand side, continue along the footpath to Lleuar Fach. Turn right towards the farm and almost immediately go left through a small gate before the wall. Walk alongside the large barn to a gate into a large field. Cross this field to go through a gate and turn right. Follow the fence to the hedge and turn left walking with the hedge and then the fence on the right. Go through the gate which is a little way to the left of the fence and then continue to walk with the fence on your right past Ty yn y rhos. By now the fence is a new hedge. Continue with this still on your right to go through gate on to a green track. Go through another gate and turn left along the lane.
Turn right at the first T junction and left (uphill) along another lane. The lane goes down hill and at the bottom take the footpath on your right over a footbridge alongside a ford. Walk along the lane to go through wooden gate to the left the house. Walk uphill (left) with the hedge to your left. Continue through another two gates to enter the farmyard at Bryn Hafod. Go between the buildings and down the farm drive to the road. Turn right to pass the site of Capel Uchaf and then down to the village of Clynnog Fawr. As you arrive at the village take the metalled footpath behind the houses this leads to the centre of the village. Turn right then left to reach Clynnog Fawr Church.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
Gadewch y pentref drwy ddilyn yr hen ffordd (sy’n llwybr beiciau erbyn hyn) heibio i Ffynnon Beuno. Mae’r llwybr beiciau’n rhedeg ar hyd ochr yr A499 ac mae ganddo gyfeirbwyntiau Llwybr Arfordir Cymru. Ewch yn eich blaen ar ei hyd (am oddeutu milltir) i drefgordd Gyrn Goch ac yna am 1.75 milltir/2.8 km pellach nes gwelwch giât wen Rock Cottage ar eich ochr chwith. Ewch yn eich blaen am ychydig nes gwelwch bostyn cyfeirbwyntio lle mae’r llwybr yn mynd i’r dde i groesi’r A499 ac yna ewch i lawr y ffordd sydd wedi’i harwyddo’n uniongyrchol i bentref Trefor.
Opsiwn arall, dim ond pan fo’r llanw’n isel, fyddai gadael Llwybr yr Arfordir ar y fynedfa i Ystumllech a chymryd y lôn ar ochr gyferbyn y ffordd. Mewn oddeutu 300 metr, cymerwch y llwybr troed i’r dde sy’n dirwyn i lawr i’r traeth. Nawr gallwch gerdded ar hyd y traeth i bentref Trefor.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
Ffeil GPS o’r Llwybr Arall - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
Map Archwilio OS 253
Mae dau lwybr posibl yma:-
1. Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Trefor
Ewch yn eich blaen i lawr y ffordd i mewn i Drefor nes gwelwch yr arwyddion ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ar eich ochr dde gerllaw’r arhosfan fysiau. Trowch i’r dde ac ewch i lawr y ffordd i Wydir a’r pier ac yna dilynwch gyfeirbwyntiau’r llwybr arfordirol o amgylch y pentir drwy Ynys Fach ac Ynys Fawr nes cyrhaeddwch y bythynnod ar y Pen Gorllewinol. Cerddwch heibio’r Pen Gorllewinol ac yna trowch i’r chwith yn ôl tuag at Drefor. Dilynwch y llwybr i fyny’r allt lle mae’n ymuno â lôn wrth y Cerbyty. Dilynwch y lôn sy’n mynd o dan bont ac yna trowch i’r dde ar unwaith a dilyn y llwybr i fyny’r allt. Ar ôl ychydig lathenni, mae arwydd ar eich ochr chwith i mewn i gaeau agored. Dilynwch yr arwyddion ar draws 2 gae ac wrth y postyn cyfeirbwyntio trowch i’r dde i ymuno â’r lon allan o Drefor. Pan fydd y lôn yn troi’n dynn i’r chwith (GR 368 463) ewch yn eich blaen i fyny trac (sy’n troi’n llwybr) i Fwlch yr Eifl. Dewch o hyd i drac cerbydau o raean mân yn dod i lawr o weithiau’r chwarel a welwch ar eich ochr dde, ewch tua’r chwith i ddilyn y trac yma i lawr i faes parcio Nant Gwrtheyrn.
2. Taith Fewndirol drwy Drefor
Yng nghanol y pentref, gyda’r siop ar eich ochr chwith, mae’r ffordd drwodd yn gwyro tua’r chwith - anwybyddwch hon ac ewch yn syth ar draws ac ymlaen ar hyd stryd ddi-enw. Pasiwch dros bont gyda Chapel Bethania ar y dde a maes parcio ar y chwith. Pan ddaw’r tai i ben, trowch i’r chwith, i fyny lôn, gan ddringo’n raddol. Pan fydd y lôn yn troi’n dynn i’r chwith (GR 368 463) ewch yn eich blaen i fyny trac (sy’n troi’n llwybr) at Fwlch yr Eifl. Dewch o hyd i drac cerbydau o raean mân yn dod i lawr o weithiau’r chwarel a welsoch ar eich ochr dde, ewch tua’r chwith i ddilyn y trac yma i lawr i faes parcio Nant Gwrtheyrn.
Mae dwy daith bosibl o’r fan yma i Bistyll
Y Daith Fewndirol: O’r maes parcio cerddwch tuag at Llysfaen am oddeutu 200 llath, trowch i’r dde i ddilyn y llwybr ceffyl drwy giât fetel. Cadwch y ffos a’r ffens ar eich ochr dde a phasiwch drwy giât arall gerllaw’r tŷ (Tir Gwyn) ar eich ochr chwith. Cymerwch y giât nesaf ar y dde, drwy’r wal, a cherdded i fyny canol y cae at y postyn marcio, y gallwch prin ei weld ar ael y bryn. Pasiwch drwy giât cae a welwch o’ch blaen, trowch i’r dde a dilynwch y wal, trowch i’r dde eto a thrwy giât bren fechan.
O’r fan yma cerddwch yn syth i lawr tuag at y fferm, Ciliau-isaf, gan groesi trac fynediad dros ddwy gamfa i basio ar ochr chwith y fferm. Dilynwch y linell o gatiau mochyn wrth i chi groesi caeau (i’ch helpu, gallwch weld bae Porth Dinllaen oddeutu 4 milltir o’ch blaen). Ar ôl pasio Cefnydd mae llwybr yn eich arwain i lawr heibio’r Ffynnon Sanctaidd i Bistyll ac Eglwys Sant Beuno.
Y Llwybr Arfordirol: mae hwn yn dirwyn ei ffordd i lawr at y Ganolfan Iaith Genedlaethol (Nant Gwrtheyrn) ac ymlaen tuag at y traeth; o weddillion y lanfa dringwch lwybr serth ond hyfryd i Giliau-isaf (Fferm) ac o’r fan honno mae’r llwybr yn arwain ar draws y bwlch i Eglwys Sant Beuno (ym Mhistyll) sy’n dod i’r golwg wrth i chi fynd i lawr. Nid oes cyfeirbwyntiau Taith y Pererin ar hwn.
Ar ôl ymweld â’r Eglwys ewch yn ôl i’r lôn a pharhau ar ei hyd i basio safle’r gwesty sydd wedi’i ddymchwel erbyn hyn. Rydych yn awr yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru gyda’r pyst cyfeirbwyntio newydd i’ch tywys. Pan gyrhaeddwch y B4417 trowch i’r chwith a chyn hir cymerwch y trac ar y dde.
Mae’r llwybr yn croesi cwpwl o gaeau (sy’n weddol fwdlyd mewn tywydd gwlyb) ond cyn hir mae’n pasio ar ochr dde tŷ ac yna o amgylch ochr bryn, drwy’r hen waith chwarel i ymuno â thrac mynediad sy’n arwain at nifer fechan o dai. Mae llwybr cul yn fforchio i’r dde cyn hir, ac wrth ymyl pen hwn mae nant fechan ar eich ochr dde. Trowch i’r chwith wrth Eglwys y Santes Fair (Amgueddfa Forwrol Llyn bellach), cerddwch i lawr y stryd i’r brif ffordd a throwch i’r chwith i mewn i Nefyn
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
Ffeil GPX y gallwch ei lawrlwytho yn dangos Llwybr Arall 1 (o amgylch y Pentir) - cliciwch yma
Ffeil GPX y gallwch ei lawrlwytho yn dangos Llwybr Arall 2 (drwy Nant Gwrtheyrn) - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
O ganol Nefyn cymerwch ffordd Pen-y-Bryn (gydag arwyddion i Aberdaron). Pasiwch Eglwys Dewi Sant ar y dde (Gwesty Nanhoron ar y chwith). Cymerwch yr ail ffordd i’r dde – Lôn y Traeth; yn y fan lle mae’r ffordd yma’n dechrau mynd i lawr yn serth gallwch ei dilyn a cherdded ar hyd y traeth, neu gallwch droi am y chwith i lwybr gydag arwydd (Llwybr Arfordir Cymru / Taith y Pererin). Mae hwn yn dilyn pen y glogwyn i Benrhyn Nefyn (a welwch o’ch blaen) ac yn parhau i Forfa Nefyn lle byddwch yn mynd i lawr stepiau i’r llithrffordd at y traeth.
Mae dau lwybr posibl o’r fan yma.
Mae’r daith hirach a mwy heriol yn eich cymryd ar hyd y traeth i Borth Dinllaen, heibio i orsaf y bad achub i ddringo o amgylch y pentir (llwybr garw iawn) i’r Maes Golff. Yma gallwch gerdded yr holl ffordd o’i amgylch ar Lwybr Arfordir Cymru ar hyd yr arfordir i Abergeirch.
Y Llwybr Byrrach: Croeswch y ffordd i’r llithrffordd a dilynwch Lwybr Arfordir Cymru i fyny’r stepiau, yna ewch drwy’r maes parcio i’r ffordd a throi i’r dde a dilyn y ffordd i’r Clwb Golff. Ewch drwy’r giât mochyn ar ochr dde’r rhwystr a cherdded i lawr y ffordd darmac (ar draws y cwrs) i’r Sied Cynnal a Chadw. Yma mae arwydd llwybr troed yn eich arwain i’r chwith ar draws y glaswellt chwarae ac yna i’r dde i ail ymuno â Llwybr Arfordir Cymru sy’n dilyn ymyl y Cwrs Golff. Ar y pen, mae’r llwybr yn plymio i lawr at y lein beipiau yn Abergeirch.
Nawr mae’r daith yn dilyn llwybr arfordirol gwych am 3 milltir dda. Yn y diwedd byddwch yn cyrraedd ardal gyda safle carafanau o’ch blaen. Dyma Dowyn, ac o’r fan yma mae llwybr troed i bentref Tudweiliog.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
Ffeil GPX i’w lawrlwytho o’r Llwybr Arall - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma- cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
I fynd i safle carafanau Towyn o Dudweiliog, cymerwch y llwybr troed sydd ar ochr ogleddol y Swyddfa Bost ar draws y caeau (mwdlyd ger y gatiau) drwy’r buarth fferm gyda’r safle carafanau. Mae coffi, hufen iâ a byrbrydau ar gael yn nhymor yr haf o’r siop ar dop y llwybr i’r traeth.
O’r Safle Carafanau, ewch yn eich blaen i ddilyn Llwybr yr Arfordir. Mae arwydd y llwybr yn eich cyfeirio at y traeth – hyfryd! Os byddwch yn dewis yr opsiwn yma bydd angen i chi sgrialu i fyny’r clogwyn yn ôl at y llwybr. Neu, os yw’r llanw i mewn, ewch i ganfod mainc sy’n edrych allan dros y bae a dilynwch yr arfordir ar lefel uwch.
Mewn rhai mannau dydy’r llwybr yn ddim mwy na thrac defaid ar hyd brig y clogwynni isel. Byddwch yn hynod o ofalus uwchben y golfach ym Mhenrhyn Melyn lle mae’r llwybr wedi’i dandorri ac y mae risg y gallai falu. Gall fod yn llithrig os yw’n wlyb. Tua hanner ffordd i lawr Traeth Penllech lle mae’r nant yn dod i lawr at y môr, mae’r llwybr yn mynd i lawr yn serth. Rhaid bod yn ofalus i fynd i lawr, ar draws y nant ac i fyny’r ochr arall. Mae’r llwybr yn cadw at yr arfordir drwy Borth Colmon a’i Faes Parcio. Ewch yn eich blaen ar hyd yr Arfordir i geunant a nant amlwg ym Mhorth Widlin. Mae llwybr erbyn hyn yr holl ffordd i Borth Oer.
Neu gallwch adael Llwybr yr Arfordir ym Mhorth Widlin. Pan fydd Llwybr yr Arfordir yn croesi’r nant ym Mhorth Widlin ac yn mynd yn syth ymlaen, trowch i’r chwith i ddilyn y llwybr troed i’r lôn. Trowch i’r dde ar hyd y lôn. Ewch yn syth ymlaen wrth y gyffordd gyntaf yna i’r dde ac i’r chwith wrth y ddwy nesaf. Ar ôl oddeutu 900 metr (a chyn y gyffordd nesaf) cymerwch y llwybr troed ar y dde sy’n arwain i’r traeth ym Mhorth Oer – yr enw arno yn Saesneg yw Whistling Sands am fod y tywod yn gwichian o dan eich traed. Ar lan y môr mae siop a chaffi sy’n agored yn yr haf i gael paned dda.
O’r fan yma mae dau opsiwn:
1. Ewch yn eich blaen ar hyd Llwybr Arfordir Cymru wrth iddo fynd o amgylch pen pellaf Pen Llŷn lle mae golygfeydd gwych o Ynys Enlli cyn i chi gyrraedd Aberdaron;
2. Cerddwch drwy’r maes parcio i’r lôn a dilyn llwybr uniongyrchol i Aberdaron.
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
Ffeil GPX y gallwch ei lawrlwytho yn dangos Llwybr 1 (o Borth Widlin) - cliciwch yma
Ffeil GPX y gallwch ei lawrlwytho yn dangos Llwybr 2 (o Ben y Borth)- cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
I’r rheiny sydd eisiau ymweld â’r eglwys yn Llangwynnadl - cliciwch yma
Ffeil GPX y gallwch ei lawrlwytho yn dangos llwybr yr eglwys yn Llangwynnadl - cliciwch yma
1. Y Llwybr Uniongyrchol
Gadewch Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan a cherdded drwy Faes Parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’r lôn a throi i’r dde. Pan ddewch i Garreg trowch i’r chwith ar hyd y trac. Cyn Tir-Bouog cymerwch y llwybr ar y dde drwy dair giât mochyn. Yna trowch yn syth i’r chwith i fynd drwy giât mochyn ar eich ochr chwith drwy’r gwrych. Dilynwch y llwybr i’r lôn. Trowch i’r dde. Ychydig ar ôl y groesffordd cymerwch y llwybr troed ar y chwith a dilyn hwn tuag at Hendre. Croeswch y cae a chadwch at yr ochr chwith gan fynd drwy 2 giât. Croeswch ganol y ddau gae nesaf, drwy’r gatiau mochyn.
Dilynwch y llwybr tuag at sgubor fawr, gan gymryd trac y fferm i ochr dde’r fferm rhwng y fferm a’r sgubor. Dilynwch ffordd y fferm i’r B4413. Croeswch drosti i’r trac gyferbyn.
Ar ôl oddeutu 200 metr, wrth giât gyda’r arwydd Cefn Coch, mae’r llwybr yn gadael y trac dros gamfa ar y dde. Mae’r llwybr yn cadw at ochr dde’r gwrych nes byddwch yn dod at ddraenen wen wedi’i heffeithio gan y gwynt gydag arwydd y tu ôl iddi. Dilynwch y llwybr i lawr heibio ochr dde’r llwyni. Ar waelod yr allt ewch i’r chwith drwy’r gwrych ac yna i’r dde i bont a throi i’r dde. Mae’r llwybr yn awr yn dilyn yr afon nes bydd yn dringo yn y pen draw i’r dde o amgylch tirlithriad. Ewch drwy’r giât ac aros ar ochr dde’r ffens. Mae hwn yn arwain i Aberdaron.
2. Llwybr yr Arfordir
Mae Llwybr yr Arfordir yn rhoi nifer o gyfleoedd i chi i amrywio’r daith. Gallwch ei ddilyn yr holl ffordd o amgylch yr arfordir. Mae’r daith gerdded yn debyg i’r Llwybr Arfordir yr ydych wedi ei ddilyn o Nefyn. Mantais hon yw y dylech allu gweld Ynys Enlli hyd yn oed os na allwch ymweld â hi. 8.0 millitr/13 km
Opsiwn arall yw y gallwch adael unrhyw le ar hyd yr arfordir a chymryd y lonau yn syth i Aberdaron. Os byddwch yn ymadael yn Anelog y pellter yw 4 milltir / 6km Porth Llanllawen. Gallwch adael y llwybr ar y pwynt yma ar hyd llwybrau troed i ymuno â lonau i Aberdaron 5.0 milltir/8 km
Nodwch: Mae’r fferi i Ynys Enlli’n gadael o Borth Meudwy sy’n 1.2 milltir/ 1.8 km o Aberdaron ar Lwybr yr Arfordir neu’n 1.7 milltir / 2.7 km ar y ffordd. Mae’n rhaid cadw lle ar y fferi o flaen llaw drwy ffonio
07971 769 895
Map OS a ffeil GPX i’w lawrlwytho - cliciwch yma
I argraffu copi o’r llwybr yma - cliciwch yma
Neu i argraffu’r llwybr llawn - cliciwch yma
Gwneud rhodd drwy Paypal
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni.
Taith y Pererin
Ebost: cliciwch yma
Dr.Rowan Williams,
Y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Williams o Ystumllwynarth. Cyn Archesgob Caergaint.
North Wales Pilgrim's Way Guide (2019)
North Wales Pilgrim's Way between Hollywell and Rowen (2022)
North Wales Pilgrim's Way between Rowen and Aberdaron (2022)
© 2024 TAITH Y PERERIN Gogledd Cymru ~ GWEFAN GAN DELWEDD. CEDWIR BOB HAWL.