(Saesneg yn unig)
The Pilgrims Way Completion Certificates are now available in the National Trust Visitor Centre at Porth y Swnt, Aberdaron. They include all the stamps around the edge of the certificate and come with a cardboard backed envelope. Cost is only £2 of which £1 is donated to the National Trust.
Ynys Enlli (Bardsey Island) has been designated Europe's first Dark Sky Sanctuary
Ganrifoedd yn ôl, roedd pererinion yn eu miloedd yn teithio draw i Ynys Enlli, wedi iddynt glywed yr hanes am yr heddwch arbennig oedd i’w gael yno ar ymylon y byd gorllewinol. Cawsent eu denu i wlad y machlud, lle byddai dim byd ond y môr mawr rhyngddyn nhw a’r anwybod.
1,500 o flynyddoedd yn ôl, sefydlodd Sant Cadfan gymuned Gristnogol yno. Yn yr Oesoedd Canol, byddai pobl yn credu bod dwy bererindod i Enlli gystal ag un i Rufain. Ac mae’r teimlad hwnnw o le sanctaidd yn dal i ddenu pererinion heddiw.
Heddiw mae llwybr sy’n croesi Gogledd Cymru wedi ei fapio a’i gyfeirbwyntio, yn cysylltu eglwysi hynafol a gysegrwyd i seintiau’r 6ed ganrif y mae eu ffydd tawel, yn plethu gyda naws yr harddwch a rhyfeddod byd natur, yn dal i atsain i ninnau heddiw.
Abaty Dinas Basing, oedd yn gwasanaethu fel ysbyty i’r pererinion hynny a ai i Dreffynnon yn y canol oesoedd, yw man cychwyn Llwybr y Pererin.
Mae’r daith yn arwain drwy goedwigoedd a thros afonydd, i fyny mynyddoedd ac ar hyd llwybrau’r arfordir, drwy diroedd gwyllt ac i mewn i bentrefi.
Mae’n dathlu treftadaeth y seintiau Celtaidd hynny y collwyd eu hanesion yn niwl yr oesoedd ond y mae eu hatgofion yn atseinio mewn hen hen eglwysi ac mewn ffynhonnau sanctaidd ar hyd y daith.
Mae Llwybr y Pererin yn daith gerdded o fwy a 130 o filltiroedd. Mae eglwysi pitw bach sy’n swatio yn y bryniau’n cynnig lloches a lle i orffwys ar hyd y ffordd, yn union fel y byddent wedi’i wneud yn y gorffennol.
Erbyn hyn mae pobl yn ailddarganfod traddodiad y bererindod ac yn ei hailddyfeisio ar gyfer oes newydd. Mae pererinion y presennol wedi disgrifio’r profiad fel “ail osod y sylfaen yn fy mywyd” fel “seibiant” ac “amser i grwydro a rhyfeddu”.
Bydd pob math o bethau’n gwneud i ni ryfeddu. Cawn weld y groes 12 troedfedd ym Maen Achwyfan – mil o flynyddoedd oed, wedi’i cherfio gyda chlymau Celtaidd ac yn dal i eistedd yn fawreddog ac yn unig ynghanol cae, gyda’i chymysgedd o symbolau Cristnogol a phaganaidd. Cawn ryfeddu at fywyd gannoedd o flynyddoedd yn ôl hefyd wrth i ni basio cylchoedd cerrig uwch ben dyffryn Conwy. Ac wrth i ni gerdded, gallwn wir amsugno harddwch tirlun Cymru.
Mae pererindod yn daith gerdded gyda dimensiwn newydd. Wrth wynebu sialens y tir a’r tywydd, bydd y pererinion yn anghofio’r pethau bach sy’n eu poeni bob dydd ac yn dod yn rhan o’r darlun mwy. Mae safbwyntiau’n newid, blaenoriaethau’n cael eu hailasesu.
Uchafbwynt y profiad yw croesi’r môr mewn cwch agored a chyrraedd Ynys Enlli o’r diwedd. A chludo’r heddwch a’r distawrwydd hwnnw adre gyda chi, dyna’r rhodd sy’n parhau.
Gwneud rhodd drwy Paypal
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni.
Taith y Pererin
Ebost: cliciwch yma
Dr.Rowan Williams,
Y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Williams o Ystumllwynarth. Cyn Archesgob Caergaint.
North Wales Pilgrim's Way Guide (2019)
North Wales Pilgrim's Way between Hollywell and Rowen (2022)
North Wales Pilgrim's Way between Rowen and Aberdaron (2022)
© 2023 TAITH Y PERERIN Gogledd Cymru ~ GWEFAN GAN DELWEDD. CEDWIR BOB HAWL.